BATS Heddiw
Grwp holl-amatur a Saesneg fel rheol yw Cymdeithas Theatrig Amatur Bishopston (Bishopston Amateur Theatrical Society, neu BATS). Gall unrhywun ymuno â'r grwp, un ai fel actor, neu er mwyn cyfarwyddo, neu weithio tu cefn y llwyfan neu flaen y ty. Mae'r holl gynyrchiadau yn Saesneg.
Mae'r Pwyllgor yn cynnwys ar hyn o bryd chwe o bobl: y Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Trysorydd, Ysgrifennydd (sy'n gyfrifol hefyd am farchnata), Ysgrifennydd Cymdeithasol a Rheolwr Llwyfan. Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am bennu polisïau a llinellau ar y cyfan. Mae cyfrifoldeb gweithredol am ddarparu drama gyda'r cyfarwyddwr, ac fel hyn mae e'n gyfrifol am ddewis y ddrama, cast, cynhyrchydd, rheolwr llwyfan, tîm llwyfan a tîm blaen-y-ty.
Cyllid
Mae'r Gymdeithas yn gweithredu gyda balans bach yn y banc. Mae'n incwm ni'n dod o'r ffynonellau canlynol: gwerthu lluniaeth; £2 y flwyddyn ffi aelodaeth oddi wrth bob aelod; £12 y flwyddyn oddi wrth noddwyr preifat (enwau wedi'u rhestru yn y rhaglenni); £25 oddi wrth noddwyr busnes am hysbyseb hanner tudalen yn y rhaglen. Mae'r incwm nosweithiol ucha (ond damcaniaethol) o neuadd lawn (80 o seddi) a'r holl docynnau wedi'u gwerthu am y pris safonol cyfoes (£5) yn £400 (dim gan gynnwys incwm o werthu lluniaeth).
Y prif dreuliau yw: llogi'r Neuadd (yn rhad, ond mae'n rhaid talu dro ar ôl tro!), breindaliadau (fel arfer tua £60 y perfformiad) a llyfrau sgript (rhaid i'r grwp brynu o'r cyhoeddwr un i bob aelod y cast, yn costio tua £8.50 yr un). Mae gwisgoedd, dodrefn a props yn cael eu benthyg pan mae'n bosib; mae'r cast, preswylwyr lleol, busnesau lleol a siopau elusen wedi bod yn garedig iawn dros y blynyddoedd yn hyn o beth, a heb eu cefnogaeth gallai llawer o'r dramâu ddim yn cael eu llwyfannu.
Mae'r cyhoedd yn dangos rhagor o haelfrydedd drwy brynu tocynnau raffl, y mae BATS yn eu gwerthu yn ystod pob perfformiad. Mae'r holl arian o'r gwerthiannau'ma'n mynd at achosion da lleol. Yn ddiweddar mae'r grwp wedi codi miloedd o bunnoedd - manylion yma.
Dechreuadau
Mae hanes hir gyda Chymdeithas Theatrig Amatur Bishopston (BATS). Cafodd hi ei sefydlu ym 1967 dan ei henw gwreiddiol, St Teilo's Amateur Dramatic Society (STADS), gan grwp Cristnogion lleol â tueddiadau wrth y theatr, gyda'r bwriad o ddod â theatr fyw i bentre Bishopston (poblogaeth tua 1,700) a'i gyffiniau.
Oedd STADS ei hunan wedi tyfu o Gymdeithas Ddramatig St Teilo wreiddiol; cafodd hi ei sefydlu yn y 1920au er mwyn perfformio dramâu Dioddefaint a Geni a pantomeimau (gyda llawer o blant lleol yn cymryd rhan). Er hynny, fel oedd aelodaeth yr Eglwys yn lleihau, diflannodd y dramâu o fath crefyddol a'r pantomeimau, ond tyfodd y brwdfrydedd am ddramâu dirgelwch a llofruddiaeth a chomedïau, ac felly o 1967 oedd y grwp yn dechrau llwyfannu dwy ddrama y flwyddyn, un yn y gwanwyn, un yn yr hydre, arfer sy'n parhau heddiw.
Ers bryd hynny, mae hi wedi bod yn angenrheidiol canslo dim ond pum cynhyrchiad, fel rheol oherwydd prinder o actorion! Yr un achlysur difrifol oedd yn 2000-01, pan gafodd dau gynhyrchiad dilynol eu canslo, a chododd y posibilrwydd o ymwasgaru. Wrth lwc, er hynny, gwellodd y grwp a chynhyrchiad rhif 86 BATS oedd The Shell Seekers, a 40fed penblwydd y grwp.
St Teilo
Mae'r grwp wedi perfformio ac ymarfer bob amser yn Neuadd Eglwys St Teilo ym Bishopston. Mae'r Neuadd yn gyfleus iawn i gynulleidfaoedd lleol, gyda digon o leoedd parcio yn agos, ond dim yn union yn ddelfrydol i anghenion amdram: er fod y nifer o seddi (80) yn rhesymol, mae'r llwyfan ei hunan dim ond 17 troedfedd o led a 12 troedfedd o ddyfnder! Mae hyn yn meddwl bod hi'n amhosib cyrraedd un ochor y llwyfan tu ôl i'r olygfa o'r llall fel rheol, a weithiau oedd rhaid i actorion adael yr adeilad i gyrraedd yr ochor arall! Hefyd mae dim ond un stafell gefn y llwyfan, sy'n gorfod gweithredu felly fel stafell newid, 'stafell gwerdd' a chegin. Yn anghredadwy, mae gwaith adeiladu dros y blynyddoedd wedi gwneud y Neuadd yn fwy nag oedd hi cyn sefydliad STADS...
Ym 1999 newidodd y Gymdeithas ei henw i BATS er mwyn mynegi'r ffaith does dim rhaid i aelodau'r grwp fod yn aelod yr Eglwys ers amser maith.
Er hynny, ac ystyried y cysylltiad hir â'r Eglwys, mae'r Gymdeithas wedi gofalu bob amser llwyfannu dramâu sy'n llai tebyg o ddigio'r nifer uchel o aelodau'r gynulleidfa sy'n mynd i'r eglwys. Hyd yma dyn ni heb berfformio gweithiau gan Dennis Potter neu Harold Pinter! Ar y llaw arall, mae'r holl ddramâu hyd yn hyn wedi dod o'r 20fed ganrif, cymysgedd hyfryd o repertoire amdram arferol a gweithiau newydd eu sgrifennu/cyhoeddi gan awduron nad ydy'r gynulleidfa eu nabod, efallai. (Serch hynny mae'r dramâu gwisg yn arfer cael eu hosgoi (eithriad nodedig oedd Jane Eyre): i grwp bach fel BATS, mae llogi gwisgoedd yn rhy gostus.)
Ar y Rhyngrwyd
Yn 2004 aeth BATS yn tra modern a chafodd hi o'r diwedd ei gwefan ei hunan. Oedd Dorothy Morris, aelod y grwp ers Ionawr 1968 (ac yn gysylltiedig â chynyrchiadau BATS/STADS i gyd ers hynny ac o hyd!), wedi casglu pentwr o raglenni a ffotos (llawer ohonyn nhw o safon uchel oddi wrth y South Wales Evening Post) yn darparu cofnod llwyr bron â bod o bob cynhyrchiad STADS a BATS. Cafodd y manylion o bob rhaglen eu teipio, ac ugeiniau o luniau eu sganio a'u golygu, a dyma'n gwefan! Tua diwedd 2007 cafodd y safle olwg 'fodernach' a chôd HTML newydd, er mwyn gwneud hi'n haws i lawrlwytho'r tudalennu gyda ffonau symudol (wel, pwy a wyr!), ac i baratoi'r safle cyfan ar gyfer cyfieithiad i'r Gymraeg.
BATS yn Gymraeg
Ym mis Chwefror 2008 cafodd cyfiethiad y wefan gyfan ei gwblhau, ac yna oedd gyda BATS un o'r safleoedd amdram manwla ar gael yn y Gymraeg. Heblaw ychydig iawn o eithriadau, mae'r tudalennau Cymraeg i gyd yn gyfieithiadau manwl y tudalennu Saesneg. Mae strwythur y safle'n unfath.
Beth bynnag, mae'r wefan wedi rhoi i BATS, Bishopston a'r cyffiniau gofnod parhaol o ran bwysig eu hanes diwylliannol diweddar yn lleol.